Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Am gwilidd soniodd Bet, ond be
Oedd 'nelo cwilidd hefo rhei
Na 'naen ddim ond peth yn 'i le
Yn weddus, megis Bet a Dei?

A thwmodd Deio at 'i waith,
Wrth feddwl am 'naill beth a'r llall,—
"Mi 'dweunost Captyn?—wel, y ffaith
'Di fod o'n myn'd yn hurt a dall.

"A phe cyttunwn i a th'di
I fyn'd yn wr a gwraig yn fuan,
Ni fedret byth mo 'nghymryd i
A gwrthod lle i Gaptyn, druan?

"Mi prynna i o— cheiff 'run ci
Byth 'siawns i larpio'r fath hen ffrynd;
Fydd o ddim byw'n hir iawn, ond mi
Geiff gwbwl chware teg nes myn'd.

"Wrth garthu rhych ne agor cwys,
Mi fydde Captyn, deyd y gwir,
Yn myn'd yn drin—gar wrth 'i bwys,—
Fu 'rioed 'i well a'i draed ar dir!

"Mor ffres a 'deryn fydde fo
Wrth fyn'd i'r maes ben bore gynt;
A chwedyn, dan y drol, ar dro,
Mi dynne, 'ngwas i! fel y gwynt!

"Mi fuo'n geffyl rhadlon, braf,
'I flew o'n llyfn a'i 'lode'n syth;
Mi ae fel cloc drwy gydol dydd,
Be? chwip? ni fydde'i heisio byth.

"Mi g'dawd o dan y drol un tro
Ar ol dadfachu'r lleill bob un,—
Mi 'drychodd mor druenus, do,
A chwedyn, a'th a'r llwyth 'i hun!