Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"On' tawn i'n dal drw'r nos i ddeyd,
Ddown i ddim i ben 'run mymryn cynt;
Ond, Betti, d'wed be w'ti am 'neyd,
Ne waeth 'mi heb ddyfetha 'ngwynt.

"Cym' fi a 'ngheffyl ne 'nte baid,
Mi gest y gwir, dim mwy na llai,
A gwir fag wir, ma' hynny'n rhaid,—
Os heua'i wenith, gwenith ga'i."

"Ie, Dei, ond meddwl am y stŵr
A godith pobol, a'r chwedleuon,
Er, hwrach, wedi 'mi gael gŵr,
Na ddylwn wrando'u stŵr na'u streuon.

"Mi wn am danat ti'n dda iawn,—
Mi 'd'faris d'wrthod lawer tro;
Wn i ddim etto sut y g'nawn,
Ond am 'rhen Gaptyn, ty'd a fo."

"Wel, bendith itti 'ngeneth wén!"
'Bre Dei tan neidio ar 'i draed,
'Ran, 'roedd hi'n myn'd yn hwyr dros ben,
A chychwyn tuag adre 'naed.

A braich y' mraich, ag ysgafn droed,
A'th Bet i ddanfon Dei gryn gwrs;
Fu dim dau dderyn, naddo 'rioed,
Mor lón a nhw tra'n myn'd trw'u 'sgwrs.

Mi g'reuddodd Dei i'r Hendre'n llón,
Ond pan yn nrws y gegin lanweth,
Mi 'na'th fath wep, a chêg mor gron—
'Roedd raid i Gaptyn gychwyn dranweth!

"Wel, wel," 'bre Dei, "waeth pryd daw'r tro
I'w ladd, fydd arno ddim i chi;—
'Does dim i'w 'neyd ond myn'd a fo,
Fel tae, os na chym' Betti fi."