Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gadawse Fetti'n hwyr y nos,
Ar hanner gaddo, fel pe tae,
Ond cin bod haul yn g'leuo'r rhos,
'Roedd Dei drachefn yn croesi'r cae.

"Be 'tae hi'n troi a 'ngwrthod i?"
Sibryde Dei, bron myn'd o'i go',—
"Be fydd 'rhen Gaptyn dda i mi—
Heb wraig na thir, be 'na 'i â fo?"

O gamfa i gamfa, gwrych i lwyn,
Y rhoncie Dei drw'r branar blin,
Dan gyfri i bres, a 'wysg 'i drwyn,
Ai weithie i ddwr at ben 'i lin.

"Mi geisia fenthig!" ebre'n synn—
"Captyn! rhaid i Bet d'arbed di,—
Gre dures glen!—be', benthig cyn
Cael gw'bod ddaw hi'n wraig i mi?

"'Di merched ddim am siarad plaen,—
Mi gadwa'i'n lle sut bynnag 'r eiff hi;
'Na'th hi ddim gaddo rhag 'i blaen,
Er hyn, mi fentra ddeyd y g'neiff hi.

"On' tra b'dda i fan yma'n llercian
Ne wibio fel rhw hurtyn ffol,
Mi all 'rhen Gaptyn orfod hercian
I ffwr'! Mi gwadna i hi'n fol!"

Drw' rwbel tew o ddwr a chlai
Y scawtie Dei o chwith i dde;
Pe'n ddyn a'i gariad hanner llai,
Mi chwilse, siawns, am lanach lle.

Daeth bore braf, a thán 'i chwys,
'Roedd Dei'n branaru Pant y Wrach,
Pan wrth 'i fistar, hefo brys,
Y mentrodd ddeyd 'i secred bach.