Mi ddechrodd arni'n berffeth ffri—
"'Dwi am briodi—'sgalla'i—'n fuan,
A mistar, deydwch wrtha i,
Faint gym'rwchi am 'rhen Gaptyn druan?
"Ran, neithiwr, gaddodd Betti'r Waen,
Bron iawn, y cymre hi fi'n ŵr;
'Di'r hen geffylyn werth mo'r ddraen,
Ond eisio 'i arbed s'gin i'n siwr."
"Be? Captyn? Dei! myn diawst i, 'does
Dim siawns y tâl o fawr i mi;
Ma'r hen bry bron ar ben 'i oes—
Mi gwertha'i o'n rheit rhad i ti."
Daeth amser 'madel gyda'r nos,
A thalwyd cyflog Dei yn llawn,
Ac ebre 'i fistar wrtho—" Dos
A Chaptyn, was—pob peth yn iawn.
"Ma' itti groeso 'honno fo,
'Ran, bu'st yn was da iawn i mi;
'Dwi'n amme dim na 'nei di'r tro
Yn ŵr y Waen—lwc dda i chi!"
Mi ddoth y m'rynion ar u râs
Dan chwifio ffedog, llaw, a het,
I ganu ffarwel â'r hen wâs,
A deyd lwc dda 'ddo fo a Bet.
Mi chwifiodd ynte 'i het wrth hel
'I dacle 'i gid, a rhedodd twrr
O blant, dan weiddi, "Dei, ffarwel!
A Chaptyn, ma' nhw'n myn'd i ffwr'!"
A thoc mi ddoed i ben y fron
Gyrheudde i lawr at ddrws y Waen;
A medde Dei, dan wenu'n llón,
"Ty'd, Captyn, gad 'ni fyn'd y'mlaen."
Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/31
Gwedd
Gwirwyd y dudalen hon