Mi cwarfodd Betti nhw amor fwn,
A 'gorodd ddrws y stabal fawr,
A chynted tynnodd Deio'r ffrwyn,
Gorfeddodd Captyn ddall i lawr.
Di Fuddugoliaeth! o'r llawryfon
A gedwi i bobol wych eu graen,
O, arbed un, o blith eu llyfon,
I Ddeio'r gwas a Betti'r Waen!
GWLAD Y GAN.
Cyhoeddwyd y ddau ganiad blaenaf o'r ddychangerdd hon y' "NGHYMRU," y caniad cyntaf yn rhifyn Rhagfyr, 1896, a'r ail yn rhifyn Ebrill, 1897. Cyhoeddwyd hi wedi hynny y' "MHAPUR PAWB," a thrydydd caniad wedi ei chwanegu atti. Yr wyf yn ei dodi yma am fod amryw yn dymuno ei chael i gyd hefo'i gilydd.
Y CANIAD CYNTAF.
Fe'm ganed i'n Hen Wlad y Menyg Gwynion,
Gwyllt Walia, Cymru Wén, neu Gymru Lân;
Fe'i henwir hi wrth fel bo tuedd dynion,
Neu'n llawer amlach fel bo odl cân:
Nid dyna'r oll o'i henwau chwaith, can's da oedd
Gan rai ei galw'n Wlad y Breintiau Mawr,
A Gwlad y Bryniau, Gwlad y Cymanfaoedd,
A Gwlad yr Eisteddfodau; wele!'n awr
Y mae—wrth gofio, Gwlad y Gân a'r Cenin—
Ei henwau amled bron a rhai cyw brenin.