Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae'i beirdd lliosog megys—megys—megys—
Wel, megys dail yr hydre'n Vallombrosa—
(Mae hon, gan henaint, yn gymmariaeth fregus,
Ond am gywirdeb, hi'n ddiau 'di'r 'gosa');
'Does lán na phentre heb ei fardd a'i lenor,
Y naill "o fri" a'r llall yn "wych" gyfrifir—
Mi hoffwn wel'd y gwron a ddarllenno'r
Cynnyrchion oll, a byw—fel tae, yn ddifyr;
A wnel heb—(gwyddoch be'), rhoer iddo bob.
Rhyw glod a roed hyd hyn i 'fynedd Job.

Gan na chae'r beirdd gynt yn yr Eisteddfodau
Mo orsedd clod yn union fel dymunen',
Hwy ddychmygasan' luaws o ddefodau,
A gwnaethan' Orsedd iddyn' hwy eu hunen;
Prif gampau'r Orsedd ydyw gwersi 'i rheithiau,
Hi fydd gywirsail pan fo'r glec yn galw,
Gwna'r troi'i chysylltu gydag arswyd weithiau,
A thal hygarsyw (er mai camp go salw
F'ai honno); felly 'mlaen ceir mynd yn nes
Eir drwy bob gair ag ynddo g, r, s.

Drwy gymmorth gau ffilolog (cofiwch swnio
A dallt y gair hwn megys petych Ffrancod,—
Ys gwn i ellir drwy ryw foddion bwnio
I bennau gwyr y wasg, a beirdd, a chrancod
Fod rhaid i'r iaith Gymraeg, fel pob iaith, dyfu?)
Drwy gymmorth gau ffilolog rhith-ddysgedig
A brofai boppeth fel y bae'n deisyfu,
Cawd hyd i swydd hynafol, gysegredig,
Archdderwydd, math ar farddol dad gyffeswr—
("Un wnai eirch derw," meddai rhyw broffeswr).