Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mi 'dwaenwn un Archdderwydd tra defodol
Na 'steddai byth—o leia', ni chadd gader
Erioed;—gwr da'n ddiau, a chydwybodol,
A gredai Iolo fel y credai'i bader;
Ei wallt a'i lais, y ddau yn llaes, gadwynog,
Oedd brif o'i gymmwysderau, mae'n ddi-lys;
Ni wnaeth erioed beth gwell na lladd ar "lwynog."
Na gwaeth na thrwsio Salmau Edmwnd Prys;
Fe fedrai Prys Gymraeg diail, a chwipyn.
Y rhaid cyfaddef, meddai'r Derwydd —dipyn.

Fe ddaeth ryw ddydd i bennau'r beirdd ('roedd yno
Ddigonedd o le gwag) nad ydoedd maint
A bri eu Gorsedd ddim yn llawn a chryno
Heb wisg i bawb, yn ol ei radd a'i fraint;
Fe gaed huganau glas a gwyrdd, rhaid adde
Mai cyson fu'r madrondod yn ei gais
I ddewis lliwiau weddai i bob gradde—
Y cwestiwn yw, p'run wyrdda'r bardd ai'r bais?—
Rhoed i'r Archdderwydd benwisg bigfain arw,
Ddigantal, ac fe'i gwisgodd—a bu farw.

Wrth fraint a defawt, penwyd ei olynydd
Ac ni fu son am ddim ond un yn pwdi;
Fe waeddai crwt o Sais ar ochr mynydd
Y Gogarth— Dad! see Punch up there? where's Judy?"
Ni wyddys beth lefara'r bardd os dywed
Neb wrtho ddweyd o'r estron air cyn erched—
Fe ddwedodd unwaith, do'n wir, fod o'n clywed
Pêr "swn y delyn yn sandalau" merched;"
Beth f'ai byddaru'r crwt â swn "Niagara?"
bob rhyw gosp, fe fyddai hon tua'r hagra.