Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac fe geid berw croch a thwrf Niagara
Heb fyned "Dros y don" a'i lluwch aflawen,
Mewn rhes o ryw englynion dynnai ddagra'
O lygaid Cymro garo'i iaith a'i awen;
Ac oni fyddai hynny ddigon caled,
Darllenner "Ber-awdl" eisteddfodol hefyd—
Mae honno cyd a'r "Flwyddyn," a chyn saled
Y gwnai'r gwrandawr a phetae arno glefyd;
Chwaneger toddaid (er mwyn lladd y lleban)
Ddwg "dyrau" ddwywaith y'mhob un o'r chweban.

Mae dyddiau'r pethau hylwys, hoywliw, hylon,
A gwiwlon, gwiwlwys, wedi darfod bron;
Ceir ambell un o gwmpas yr ymylon
Yn canu i'r "Eisteddfod hynod hon;"
Ond geiriau fel "nos—dirol anhawsderau,"
Neu fel "Crist—debyg wron" bia'r maes;
Gwneyd hyn yw'r pennaf oll o'r cymmwysderau,
Oddigerth, hwyrach, wisgo'r gwallt yn llaes,
A mynd trwy arholiadau mewn gwybodaeth
Am lyfrau na phrynn neb ond drwy orfodaeth.

Does ryfedd fod y beirdd mor ddiramadeg,
A difarddoniaeth o ran hynny, canys
Pwy glywodd son am wenith unrhyw adeg
Yn tyfu mán na heuwyd dim ond manus?
Er engraipht, 'studio awdl ar "Glawdd Offa,'
Ei geiriau, hwyrach, o'r tu yma'r clawdd,
A'i phriodebion, druain, am y cloffa,
Oll o'r tu arall; na, nid gorchwyl hawdd
Yw dysgu iaith yn gywir oddiwrth un
Aeth yw 'scrifennu cyn ei dysgu 'i hun.