Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae'n wir fod Fyrsil gynt wrth ddechreu prydu
Yn dwedyd "canaf" (yn y gwreiddiol cano,
Os ydyw'm Lladin i yn peidio rhydu-
Sut bynnag, gwn, chi welwch, beth am dano);
Am hynny barnodd un o'r beirdd Gorseddol
Y medrai yntau ganu arwrgerddi,
A chanodd amryw bethau hir ryfeddol,
(O char ei wlad, gwael na ddistewai erddi):
Ond ni wneir rhigwm maith o'r math trwstanaf
Yn gerdd awyrain a'r ymadrodd "canaf."

Mae gan un bardd gryn ddeuddeg o gadeiriau,
A llawer mwy na hynny o genfigenwyr;
Mae'n wir ei fod o'n gawr am glecian geiriau,
Ond amlach ei gadeiriau na'i ddarllenwyr;
Un arall sydd a'i esgyll yn ymledu
Nes swyno'r beirniaid agos hyd wirioni,
Ei bennaf fai yw fod o'n cwbwl gredu
Fod rhaffu llawer 'run peth a barddoni;
Er, eddyf yntau weithiau yn ei gân,
Yn onest braidd," trugaredd wnaiff y tân."

Un eto gân, ac eiddo'r Canol Oesau
Yw'r orgraff ddilyn ef i raddau pell;
(A ddaw i'r orgraff derfyn ar ei chroesau,
Amgen na'i gwneyd yn waeth a'i galw'n well?)
Fe gân―yn awr, gofelwch am eich genau-
Am "sidan-awelon" (frifodd neb, gobeithio?)
Yn fynych italeiddir y llythrennau
I ddangos y Farddoniaeth a'i pherffeithio;
Rhyfeddswn innau, fel y gwnaeth y nef,
Pe clywswn "delyn" ganai "anthem gref."