Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid dyna chwaith yr oll o ryfeddodau
Y beirdd, mi fedrwn nodi rhai myrddiynnau
O bethau rhyfedd, gyda l-au
I ddangos eu rhyfedded; mae'r testynnau
Yn fynych iawn yn llawn o ddiwinyddiaeth,
A metaffyseg, dim byd, ac athroniaeth,
Morwriaeth, gweniaith, ochain, a seryddiaeth,
A phoppeth drwy'r bydysawd, ond barddoniaeth.
Am iaith, mae'r beirdd yn hyn yn fwy o drethwyr
Ar 'fynedd dyn na phawb, ond y pregethwyr.

Aeth nifer mawr "tuhwnt i'r llen" eleni-[1]
A gwae eu dod yn ol o'r fro gyfrinol;
Y flwyddyn nesa' ceir, mae'n debyg genni,
Draithodau ar "Frawdoliaeth Gyffredinol:"
Pwy fyth ar ryw gynghanedd feder blethu
Y ddeuair sydd hyd seithsill yn ymestyn,
A rhaid fydd gwneyd rhag ofn i rywun fethu.
A dirnad beth a ddichon fod y testyn;
Peth câs yw darllen awdl heb un syniad
Beth oedd ei thestyn hi ar ei chychwyniad.

Mae meddwl am y darnio a'r llurguno
Fydd ar yr hen Gymraeg bron iawn a gyrru
Y sawl a'i câr i ddeisyf a dymuno
Cyflafan arall. Gwarchod ni, 'r pentyrru
A fydd ar eiriau gweigion at eu gilydd,
A'r difrod erchyll wneir ar ryfeddnodau:
Ac wedyn, wrida neb o'r beirdd gan gwilydd,
A chaiff un gadair am ei holl bechodau;
Ond hwyrach na cha'r wlad mo'r traithawd gorau,
Os felly fydd, bendithier y pwyllgorau.


  1. Flwyddyn Eisteddfod Llandudno (1896) y gwnaed y gan hon.