Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rwy'n byw y' Ngwlad y Gân, fel d'wedais gynnau,
Ond, 'rhoswch—Enid! onid heno, dywed,.
Mae'r prifardd Pendew'n dyfod a'r rhimynnau
A eilw'n "Awdl," gael i mi eu clywed?
Ai ê? O, 'r nefoedd! dacw fo ar y gair—
Beth? clo ar y ddrws y cefn? Wel, brysia agor;
Mi ddof yn ol y' mhen dwy awr neu dair,
(Aed ef a'i awdlau—hym!—os erys ragor);
Dwed wrtho, Enid, 'dwyf fi ddim yn iach—
Mi af i'r dre i weld y "ffyle bach."


YR AIL GANIAD.

Er gwaetha'r cwbwl, 'rwyf yn byw a chanu—
Nid ar fy nhir fy hun ychwaith, ysywaeth—
(Ni feddaf lath o dir, er mod i'n hannu
O deulu gynt fu enwog am ei gywaetli);
A byw go fain i Gymro yw llenora,—
Ni chai gefnoctyd ond un arwynebol
Pe d'wedai'i feddwl yn yr iaith ragora'
Os na thrydd at "lenyddiaeth gyfundebol; "
Os hynny wna, bydd "awdwr dylanwadol,'
A'i ganmol wna pob papur bach enwado!.

Wrth feddwl am bapurau, mae digonedd
Ohonyn' hwy ar hyd a lled y wlad;
Ni fynnwn i gynhyrfu mo'u digllonedd,
Can's enbyd fyddai hynny, pwy a wad?
Peth eitha fyddai llochi'r golygyddion,
Ond dweyd y gwir a raid i mi, pe digien;
Am add yr iaith 'does odid well cigyddion,
A chofio 'u bod yn cael cryn ddeg ar hugien
O sylltau yn yr wythnos am eu gwaith
Gan rai wyr lai na hwythau an y aith!