Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y'mlaenaf (fel y dywed y pregethwyr),
Cyfeiriwn (fel y dywed gwyr y wasg),
At waith y golygyddion, prif ddifethwyr
Grammadeg, inc, a phapur; penna' dasg
Y rhei'n yw trosi barn papurau'r Saeson
O Saesneg gweddol i Gymraeg echrydus;
Mi wn y ffraean' eto fel y ffraeson'
Am immi fentro dweyd y gwir adfydus,
Ond caraf Gymru gystal ag un dyn,
A dwedaf, dylai ddweyd ei barn ei hun.

Hwy wnan ar ambell fater cartre felly
(Y golygyddion wy'n olygu'n awr),
A garw dosted hefyd yw'r fflangellu,
A'r cynnwys bychan gymmer le mor fawr:
Rhaid dweyd "yr ydym eisoes wedi dwedyd "
Yn lle "dwedasom "—waeth mo'r llawer beth,
Can's nid yw'r peth a dd'wedwyd nemor gredyd
I undyn ond i 'fynedd mawr di-feth
Y sawl ddarllenno'r oll heb—wel, heb wneyd
Y peth na waeth i mi heb drwblo 'i ddweyd.

Yn nesaf (dyna ddull y pulpud etto),
Mae gennym i gyfeirio (dyna ddull
Y wasg, a gwae i'r truan a ddywetto
Ddim yrr ohebwyr hon i dymmer hyll):
Beth ddwedais?—O! mae gennym i gyfeirio
Yn nesa' peth at waith y gohebyddion;
Maen' hwy fel peten' wedi ymgyngreirio.
I wneuthur a ddylasai'r golygyddion,
Sef gwneyd sylwadau ('n mesur tua throedfedd
Ar ffaith na fesur fwy na chwarter modfed).