Os digwydd rhywun digon dinod farw,
Yrwan, bobol anwyl! am ohebu;
Fe geir colofnau am y golled arw
(Nid dwl o dro a fa'i eu hystrydebu,
Arbedai dalu cyflog i'r cysodydd):
Yr oedd y sawl fu farw 'n wir Israeliad,
Yn Nasaread, pen pob cyfarfodydd,
Tywysog mawr yn Israel, a chaffaeliad
I'w ardal, a "derbyniwr cyson hefyd.
O'r papur hwn" (gnawd ddwyn o hynny glefyd).
Ar ol rhoi hanes maith a thra gwasgarog,
Gweddio mae'r gohebydd yn doredig,
Fo erfyn, "Bydded nawdd y Nef drugarog
I'r weddw a'r amddifaid trallodedig;"
Fo ddywed hefyd, "Gyfaill anwyl, huned,
Nes byddo dorau beddau'r byd yn agor,
A gwyrdd fo'i fedd," deil atti i ddymuned
Cyffelyb bethau, ond ni ddwedaf ragor
Heblaw fod gweddi'n eitha i bechadur
Cyhyd na ddodo hi mewn "newyddiadur."
Pan rydd gohebydd gwrs o'i farn ei hunan
Y' nghylch cwrdd te neu am ryw gwrdd llenyddol,
Bydd amryw yn yr ardal na chytunan',
A dyna ryfel doniau gohebyddol:
Bydd un yn galw'r llall yn anwybodus,
Yn llawn o ragfarn ac o lid maleisus.
'Scrifenna'r llenor gwych" a'r "bardd hyglodus '
Golofnau i dd'wedyd a ddywedwyd eisys,
A'r "Gol." a dd'wed y' mhen rhyw flwyddyn gron,
"Boed hyn yn derfyn ar y ddadl hon."
Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/40
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon