Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond wedi'r cwbl, rhaid cael "copi" rywsut,
A chan fod hwn, ran amla, 'n "gopi" rhad,
Wyr gŵr y papur newydd yn ei fyw sut
I dalu am newyddion tref a gwlad;
A thyna'r holl bapurau Seisnig, wel,
Mae'r rheini'n cwbwl loffa pob newyddion,
A rhatach fil na thalu am eu hel
Yw talu tipyn bach i gyfieithyddion;
Os papur Sais dd'wed "John Jones sang," peth anodd
Cael papur Cymro heb "John Jones a ganodd."

Ffordd dda i ohebu yn llwyddiannus ydi
Disgrifio'r lle fel "pentre bychan tawel,
Yn gorwedd rhwng mynyddau llawn mawrhydi,
Màn trwy y gwyrdd-goed troella'r dyner awel,"
Neu ddweyd "anaml bydd neb oddiyma 'n curo
Wrth ddor eich papur clodwiw am dderbyniad,"
A mynd y' mlaen i draithu ac egluro
A fyddo 'ch meddwl chwi eich hun a'ch syniad.
Am hyn a'r llall, ac eitha peth, ran hynny,
Yw son am "sychu'r 'sgrifbin" wrth derfynnu.

Os na cha'r druth (gobeithio y maddeuwch.
I mi am beidio galw'ch gwaith yn llythyr,
A chredu'r ydwy' rywfodd nad amheuwch
Fod eisieu parchu'r gwir, fel dwed y 'Scrythyr).
Os na cha'r druth "ymddangos," fel y dwedir,
Y' mhen yr wythnos, peidiwch digalonni,
'Does wybod ar y ddaear na chaniedir
I'r byd y' mhen y mis gael peth ohonni,
Can's mae yr ystyr wir i'r dydd o'r blaen "
Ran amla'n fis neu ddau—na faliwch ddraen.