Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond dyna, hwyrach, ddigon am y tro,
Rhag ofn i ryw ohebydd daro arna 'i—
Er nad wy' ddim yn barod, gwyped o,
I ddilyn Keats er plesio'r gŵr a'm barnai;
Ond waeth cyffesu'r gwir i gyd na pheidio—
(Ac mae cyffesu 'n lles i'r enaid, meddir)—
Egwyddor a grammadeg! 'rwy'n ocheneidio
Fod cyfraith gwlad yn dweyd "a laddo a leddir,"
Rwy' newydd edrych dros y "newyddiadur,"
Ac, wel, mae pen ar 'fynedd pob pechadur.


Y TRYDYDD CANIAD.

O, Wlad y Gân a'r Enwad! pwy na'th welai
Yn fyg a chain (sef ydyw hynny, hardd);
Bu Natur hael yn afrad pan y'th wnelai—
Peth od na faget weithiau ambell fardd!
Y mae dy hanes hefyd, pe'i 'scrifennid,
Yn llawn o yspryd ac o ymdrech arwyr,
Mae'n hanes allai ddeffro 'r nwyd gynhennid
A wnai ein tadau gynt y fath wladgarwyr;
Gwladgarwch heddyw sy lawforwyn masnach—
Mae'r Cymro'n caru 'i iaith a'i wlad yn Sasnach.

A gwr rhyfeddol yw Gwladgarwr heddyw,
Hynafol iaith ei dadau sy'n ei swyno,
Fo ddwed o ddifrif mai o Omer deddyw,
A phaid a'i siarad rhag ofn iddo 'i d'wyno;
Fo ddywed hefyd ambell waith dan wenu
Mai dyma'r iaith siaradai Adda ac Efa,
A dwed mai hi fydd iaith y gorawenu,
Gan bob rhyw sant o fewn y nef gartrefa;
Os felly, i'r fan arall yr aiff e',
On'te fe ddysgai siarad iaith y lle.