Ond os gofynnwch i'r Gwladgarwr dwyfol
Paham y rhoes dros ŵr un iaith ei lais,
Fo ddwed nad ydych ond gwladgarwr plwyfol,
Mai cadw Cymru i'r Cymry yw eich cais;
A phe gofynnech sut y dichon gŵr
Na ddeyll air o iaith y plant, eu dysgu,
Fo ddywed ich' y gellwch fod yn siwr
Nad oedd y Board, pan wnaeth ei waith, yn cysgu:
Wrth gwrs, chwi fynnech amme'r atteb gwammal,
Ond—wel, mae'r gwallco'n methu cysgu'n amal.
Drachefn, fo aiff i gwrdd y Cynghor Tref
(Neu'r "Cynghor Trefol," chwedl y "newyddiadur").
Ac yno etto fo a gŵyd ei lef
Gan dreisio iaith ffasiynol y Pennadur;
Bydd yno eisieu gwr i hel y dreth,
Neu gadw golwg ar fudreddi'r dre,
A'r Gwladgar etto ddwed mai mawr o beth.
Yw pennu gŵr fo gymmwys at y lle;
Ond dyna yw'r cymmwysder goreu allan—
Rhoi uwch y bobl swyddog na ddeallan'.
Cyn hir, dwed Sais fod Cymru'n ymseisnigo,
A bod yr iaith Gymraeg yn prysur farw,
Ond gwyliwch, dyna'r Gwladgar yn ffyrnigo,
Gan ddechreu curo ar y Sais yn arw;
Mae'r hen Gymraeg, eb ef, yn gref a hoyw,
Ac ni fydd marw tra f'o mor a mynydd,
Mae arni heddyw olwg fil mwy gloyw
Nag a fu gynt, rhagorol yw ei chynnydd;
Y mae 'n ei siarad filoedd o drigolion,
A'i dysgu'r ys i'r plant yn yr ysgolion.
Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/44
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon