Ni ddwed y gŵr pa sut gall hyd yn oed
Y Sais caletta'i wyneb dan yr huan
Addysgu iaith nas gwybu hi erioed—
Ond beth sy wnelo hynny a Chymru druan?
Y sawl a fynno'i alw yn Wladgarwr,
Ni raid i hwnnw geisio bod yn gyson,
Dim byd ond gwybod enw ambell arwr,
(Dim draen o bwys am beth y bu'n ymryson),
Son am y "cymmwysderau" tra thoreithiog
Y sydd bob amser yn y Sais unieithog.
Chwi ellwch draithu'n ddoeth am enwau llefydd,
A galw 'ch ty yn London House, neu Villa;
Dweyd mai'r Gymraeg yw iaith naturiol crefydd,
A chodi mân achosion Seisnig tila;
Myn'd i'r Eisteddfod, a dymuno'n dduwiol
Am "Oes y byd i'r iaith Gymraeg." a throi
I ddarllen maith feirniadaeth go unrhywiol
Yn Saesneg, nes bo'r bobol yn cyffroi;
Chwi ellwch wneuthur hyn yn lled ddidrwbwl,
A chael eich cyfri'n wladgar wedi'r cwbwl.
Chwi ellwch fynd i gwarfod politegol,
(Mae cwarfod, am wn i, yn eitha' iawn,
Mae'n fyrrach beth, ac nid yw'n llai mynegol
Na'r gair cyfarfod, wedi'i roi yn llawn)—
Chwi ellwch fynd i gwarfod politegol,
A sôn am "Gymru Fydd" nes troi yn wyrdd,
(Os dichon i'ch,—a bod yn rhesymegol—
Droi'n wyrddach, felly, nag y'ch wrth eich urdd)
Chwi ellwch fynd—ond, 'rhoswch hanner munyd,
Gwnaf bennill arall—gwnaiff y tro'r un ffunud.
Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/45
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon