Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tydi, Wladgarwch! 'rydwyt fel cyfflogyn,
Mae'th gorff yn fyrr, ond O! mae'th big yn hir;
Ai ti yw "noddfa ola'r dyhirogyn?"—
'Rwy'n ofni bron y rhaid fod hynny'n wir
O, Gymru anffortunus! pwy a'th wared
O law y genfaint honno sy'n amlygu
Eu cywir gariad attat drwy ddynwared
Pob peth y Sais ffroenuchel, gan ddirmygu
Dy holl anghenion di a'th gyfleusterau
Dan rith cyflogi'r "ucha' 'i gymmwysterau"?

Ai oni fyddet lawer iawn cysonach
Pe peidiet mwyach a'th wladgarol dwrw,
Pe cym'ret siampl ambell bwt o gonach
A heliodd bres wrth werthu glo neu gwrw,
A siarad dim ond Saesneg o hyn allan—
Pa waeth 'tae hwnnw 'n Saesneg go dolciedig,
Pa waeth pe dwedai'r bobl na ddeallan',
Ti gaet eu galw 'n ysgentynnod gwledig;
Ni chai'r Gymraeg—di, gochel beth cyn erched—
Beryglu mo wastadrwydd gweflau 'th ferched.