Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YR AELOD SENEDDOL.

Gŵr yn gwas'naethu ei wlad.
Gan dalu'n ddrud am fyn'd i fyny,
A diodde pob rhyw sarhad
Gan un hanner o'r bobol at hynny :
Agorwr basarau, a hael
Osodwr pob math ar sylfeini,
A thalwr dirwgnach y draul
Y sydd mewn cysylltiad a'r rheini,
Dyna'r A.S.


Y PROFFESWR.

Gwr gwybodusaf y byd,
A'i farnau yn anffaeledig,
Nes dengys oes arall fod hyd
Yn oed yntau yn gyfyngedig.
Dyna'r Proffeswr.


Y MORWR.

Straeon o bedwar cwrr byd,
Iaith, os yw'n gref, y sy'n gryno;
Nabod y ser i gyd,
A chastiau y gwynt, gwnaed a fynno.
Dyna'r Morwr.


Y GLOWR.

Ma'i wyneb e'n llawn o grithe,
A'i iaith e'n lled fras, ond taw sôn,
Os yw e'n sychedig withe,
Myn Jawl, ma e'n biwr yn y bôn!
Dyna'r Glowr.