Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Debycced oedd y dydd i oes y bardd
Yr oeddym yn ei ddodi yn ei fedd—
Oes na bu heb ei horiau claer o hedd
A wisgai 'r eira à goleuni hardd,
Oes na bu heb y gwyrddni teg a dardd
O wresog nwyf ac aspri bywyd; oes
Na bu heb gwmmwl du ac awel groes.
Ond os, ar ddydd o wanwyn, pan y chwardd
Addawol flagur mán y bywyd cudd,
Y delo cwmmwl du ac awel lem
I lwydo 'r llawr a throi y gân yn brudd,
Nid anial gwyw, serch hynny, ydyw'r drem,—
Mae ambell yspaid ferr o heulwen sydd
A'i gwawl yn troi pob gronyn ôd yn em.

Ac felly, wedi cyfnewidiol hynt,
Dygasom ef i fynwent Peblig Sant;
A Natur wnaeth farwnad un o'i phlant,—
Hiraethus gwynfan oedd y' môn y gwynt,
Ac ambell ru, fel ffrwst y dyddiau gynt
A dreuliodd ef; ac yna cwmmwl du
Yn dod a myned; eithr pan y bu
Ei ollwng ef i lawr i'r bedd, dros gant
Y nef ymledodd ffrwd o heulwen lwys
A roes ar boppeth wawr o burdeb llwyr.
Ai lledrith gwag yw r holl feddyliau dwys.
A ddel i'r galon weithiau? Dyn nis gwyr.
Ond dir fod rhagor, wedi cymmain' pwys—
Mae siriol wawr ar ol y pruddaf hwyr.