Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Golygfeydd yr ydys felly
Yn eu cuddio rhag y llygad,
Fel yr ydys fyth yn cuddio.
Pob ysgarthion annymunol?

Mwya'r llafur, mwya'r dolur,
Goreu'r esgus, gwaetha'r effaith;
A thrwy nos yr oesau hirion
Mae'r ddiatteb hawl yn swnio,
"Pa leshâd?"
Ac yn nyfnder ein calonnau
Y mae rhywbeth fyth yn adsain,
"Pa leshad!"


I'M GWLAD

"Und was die innere Stimme spricht,
Das tauscht die hoffende Seele nicht."
—SCHILLER.


Mae genni gyngor bach i ti, fy ngwlad,
Sef Cymru, canys, er mai bach wyt ti,
Nid wyt ry gyfyng i'm galluoedd i,
Nad ydwyf ddim ond gwr o isel stad.

Ni roed i mi mo'r meddwl mawr y sydd
Yn trafod cyfandiroedd, megys duw,
Yn penderfynnu tynged dynol ryw
Wrth a f'o rheidiol er fy moeth a'm budd.

Ni raid i'm chwaith wrth wledydd byd i gyd
Cyn y b'o dichon immi wneyd fy rhan:
Pe medrwn wella cyflwr dim ond llan
Neu bentref ynnot, gwyn a f'ae fy myd!