PA LE MAE'R UN WLAD FEL TYDI?
Gymru, fy ngwlad, hen gartre fy nhadau,
Pa le mae'r un wlad fel tydi?
Llawn o hanesion a hen draddodiadau
Am ryddid, gwroldeb, a bri;
Carwn di byth, hen gartref y Brython,
Carwn di, carwn di'n anwyl tra fytho'n
Calonnau ni'n serchog,
Hen Gymru ardderchog:
Pa le mae'r un wlad fel tydi?
Crwydro bu'm gynt ar hyd dy fynyddau,
A chwarau dan gangau dy goed;
Adgof sy'n ber drwy feithion flynyddau,
Yr adgof, ie'r cyntaf erioed—
Adgof am goed, mynyddau, a bronnydd.
Blode a nentydd a gloywon afonydd;
Serch at y rhei'ni
A lanwai 'mron heini,
A'i lleinw 'run fath ag erioed.
Gymru fach dlawd? Hyd angau fe'th garaf,
Nid oes yr un wlad fel tydi;
Mawredd a geir, hen Gymru hawddgaraf,
Yn llanw 'th ardaloedd i mi;
Treuliaf fy oes yn swyn dy chwedleuon,
Trengu a fynnwn yn swn dy ganeuon;—
Huned fy nghalon
Pan ddarffo 'i gofalon
Yn naear hen Gymru fy ngwlad.
Mwyn yw dy iaith, a phêr dy ganeuon,
A hen yw dy gestyll i gyd;
Hir yw dy hanes a hen dy chwedleuon,
Ond ieuanc yw'th enaid o hyd,—