Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gochel ei werthu y' marchnad y gelyn;
Glân foed dy law i ddeffro dy delyn
Mwy nid i gŵyno
Ond bellach i swyno
Hen galon y byd â dy gân!
Holl enaid y byd â dy gân!


BRAWDOLIAETH.

Hwda am funyd! Wyt ti'n ddyn tlawd?
Fu dy dlodi di'n destyn gwawd?
Do? Dyro'th law! 'r yden ni'n ddau frawd,
Ac mae'n dda gen i weled dy wedd.

Gwn ar dy lygad a'th wyneb prudd—
Peth garw yw dioddef am lwydo grudd!—
Fod gofid dwfn yn dy fron di 'nghudd—
Mae'r meddwl yn 'stumio 'r wedd.

Oes, mae gonestrwydd pur ar dy ael—
Gonestrwydd! mae o'n beth anodd i'w gael—
Rhyfedd fod iddo fo daliad mor wael
Ac yntau mor brin yn y byd!

Fuost ti'n crwydro yn nyfnder nos
Ar ol caledwaith ar faes neu mewn ffos,
Heb gâr na dim, ond fod llais yn d'weyd "dos,"
Na wyddet i b'le yn y byd?

Fu'st ti'r pryd hwnnw mewn hiraeth dwys
Am ddysg a gwybodaeth, a than ei bwys,
A wylaist ti'n brudd? Fu rhyw goegyn brwys
Yn chwerthin ryw dro am dy ben?