Prawfddarllenwyd y dudalen hon
BREUDDWYD.
Mynd 'roedd y dydd
I'w wely rhudd,
A gwawl yr haul wasgare
Ei gochwrid glân,
A'i fargod tân
Ar frig y tonnau'n chware;
Fe chwarddai brig
Y laswerdd wig
Is euraidd wên ei olau;
A thano, cain
Oedd blode'r drain
A meillion mân y dolau.
Yr adar mân
A'u difyr gân
O dewfrig goed y glyniau
Yn swyno'r rhos
I gysgu'r nos,
A gwisgai'r niwl y bryniau;
Dan irlwyn braf
A deilos haf
Hudolus hûn a'm huddodd;
Bereiddied daeth,
Ond brudded aeth.
Y breuddwyd im' ddigwyddodd.
A mi y'nghwsg
Ar wely mwsg,
A pherlau mân y gwlith
Yn gwlychu 'mhen
A 'ngwefus wen,
Anghofiais wae; mewn rhith