Prawfddarllenwyd y dudalen hon
O'm blaen ar hyn.
Agorai glyn
A'i gaerog lwyni pêr
Dan ortho dlos
Amryne ros,
Y' mirain wrid y sêr.
Hyd lawr y glyn
A'r marmor gŵyn
Murmurai gwenog nant,
A sibrwd hon
Lle llifai'r dòn
Fel llafar, dyner dant;
A'r awel fwyn
Yn nail y llwyn
Yn eilio lleddf erddygan—
Gwefreiddiol gŵyn,
Cynhennid swyn,
Mal enaid serch yn sygan!
Y brigog goed,
Y deiliog goed
Yn hidlo gwin a mêl
I gawgiau mân
Rhiesau glân
Y rhosog lwyni cêl,
Sef cregin cain
Y môr; a glain
Hyd lwybrau glwys eu traed,
Yn gymmysg â
Gwawr wen yr iâ
'Roedd gorne rudd y gwaed.