Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dan roslwyn cûn
Mi welwn un
A thelyn aur i'w llaw,
Yn eiste ar lân
Yr aber gan
A'r berw gwyllt, di daw;
A thynnu cân,
Neud, diail gân,
Wnai'i dwylo gwynion hi
O'r tannau cain,
Cân, rian fain,
Wirionai fenaid i.

Coronig dlos
O ruddain ros,
Addunai'r rhei'n ei phen;
A thros ei bron
O derlliw tón,
Cnwd eurwallt hir oedd lên;
Cymmysgai 'i chân
Ag alaw lân
Yr awel leddf a'r lli,
Rhwng lleddf a llon,
A'r odlig hon
Mor hudol ganai hi:—

"O dawel dud
"Dwyfolaf hud,
"Dy fywiol falm a'th swyn
"Ireiddia'r rudd,
"O galon brudd
"Tynn golyn braw a chŵyn;