Prawfddarllenwyd y dudalen hon
"Rhy'th adar mán
"Eu llawen gân
"O'r llwyni gwyrdd, fel hyn;
"Alawon llaidd
"D' awelon draidd
"I'w dilyn drwy y glyn!
"Murmurog gân
"D' afonig lân
"Hyd feini glain a gro,
"A'i llafar si
"Y cyngan hi
"Rhwng cengyn heirdd y fro;
Mae'th eigron têr
"A'u lleisiau pêr
"Yn arllwys puraf gân-
"Sain tannau mêl
.. O roslan gêl
"A dryslwyn gwyrdd a glân."
A mi fel hyn
Yn gwrando'n syn
Gywreindon syw ei chân,
Ymdduodd nef,
Bu taran gref
Yn torrin groch, a thân
Y fellten wen
Yn rhwygo'r nen,
Chwyrn guro wnaeth y glaw:
Diflannodd swyn
Yr oror fwyn
Yn nhwrw'r fath oer fraw.