Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Efelly swyn
Dedwyddyd mwyn
O hyd y' myd y boen,
Dros ennyd ferr
I fyd rhydd herr,
Fe drydd ei wae yn hoen;
Ond er ei fwyn
Diriona' swyn
Daw'r hoenus wawr i'ben,
A'r olwg dry'n
Nos galar du
Nes gwelwo'r dawel nen!
"POB TLAWD SYDD GYDFRAWD I GI."
Onid a rhan y diwyd,—holl ofal
A llafur ei fywyd,
I'w gwario ar feib seguryd,
A chadw'r beilch à da'r byd?
A'r diles yn gormesu,—a moethau
Amheuthyn o'i ddeutu,
Y' nghyni dwin angen du
Gwronedd tlawd ga' rynnu.
Tynghedfen front, ing adfyd—rydd hi ar
Ddewrion angenoctyd;
A hidla traha'i wawdlyd
Rêg ar ben goreugwyr byd.