Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YMSON Y LLYW ESGYMMUN.
["Yr oedd Llywelyn dan esgymundod, ac ni fynnai ei elynion drugarhau wrth ei lwch. Gwrthododd archesgob dynnu'r esgymundod oddiarno, ac y mae llwch Llywelyn, pa le bynnag y mae, eto dan felldith yr eglwys."—Erthygl yn "Y LLENOR."


"Ys mau gan ddefnydd ymddifanw a Duw."
—GRUFFYDD AP YR YNAD COCH.


Esgymmun wyf, am feiddio codi arf
Yn erbyn gormes draws y Norman balch:
Mae Melltith Dduw yn tynnu min fy nghledd,
Yn pylu 'm picell ac yn torri 'm saeth;
Mae 'i lid ar warthaf pawb a'm canlyn i,
A phoenau uffern dân a'u herys hwy:
Yr wyf yn herrio Duw i faes y gâd,
O saif y gair a'm hesgymmunodd i!
A raid im' wadu'm gwlad a thorri'm llw,
A gwerthu iawnder fal y prynwy' nef?
A ddyry Grist ei râd i ddengyn bas
A blycco'i ben i dderbyn cam a gwarth,
A ddodo 'i warr o dan yr iau rhag ofn,
Dirmygus lwfrdra, nad oes, namyn carl,
Na b'ai ddewisach gantho uffern bwll
Na meithrin based yspryd yn ei fron?
A wrthyd Grist ei nawdd a'i râd i'r sawl
Wrthotto warth a phechadurus frâd,
A dyngodd gadarn lw i gâr a brawd
Y trengai cyn y gwerthai 'u rhyddid hwy,
Na fynnai fwy na chadw 'i briod wlad
Rhag creulon raib a gorthrech estron traws?
Diau! Esgymmun wyf, ac nid oes frawd
A eirch ar Fair un arch o'm plegid i,
Rydd olew im' nac angen pan y bwy'
Yn nygnaf boenau angau! Dorau nef
Nis detgly Pedr borthor, onis rhof