TELYN LLYDAW.
[Y mae deffroad llenyddol yn Llydaw, a gwyr o ddysg a dawn yn coleddu'r iaith. Troswyd y cerddi isod i'r Gymraeg o'r llyfrau y mae fy nghyfaill M. Jaffrennou (Taldir) wedi eu cyhoeddi, sef "An Delen Dir," "An Hirvoudon," a'r "Kanaouennou Brezounek," ac yr wyf yn eu cyhoeddi yma gyda'i gennad.]
| Gwaith Frañsez Jaffrennou ar Wicidestun Llydaweg |
HIRAETHGAN.
("Huanaden.")
Enethig ieuanc a garaf,
Tyr'd ataf fi!
Fy nghalon grynn pan welaf
Dy wenau di.
Tro arnaf d'olwg lawen,
Dy lygad glas;
Gan im' glywed dy chwerthin
Mwyna'i flas.
Fy mhen sy' lawn o bryder
Gan ofid trwm,
Sy'n llwydo f' ael, sy'n pwyso
Fel y plwm.
Bywiocach di na'r deryn
Dan heulwen a gân,
Hoywach nag e' ar ei aden
Ysgafn a glân.
Ac yna, fel yr aderyn,
Gadewi'n brudd
Fi, druan fab a'th garodd,
Nos a dydd.
CAN I'R MORWR.
("Kanaouen ar Martolod.")
"Dywed, forwr, gyfaill difyr,
Red y mor o ben i ben,
Am ba beth y bydd dy fyfyr
Pan y'th guro'r waneg wen?"