Prawfddarllenwyd y dudalen hon
CCLV.
Rwr's disgwyl wrthyt, Iesu,
Ymddiried yn Dy waed,
Am iachawdwriaeth berffaith,
Mor fawr, ac eto'n rhad;
Ymddiried am fy ngolchi
Yn lân fel eira gwyn,
Yng ngwaed y ffynnon ryfedd
Ar ben Calfaria fryn.[1]
CCLVI.
MAE gallu mwy rhagorol
Nawr gan fy Mhrynwr drud,
Na rhoddi'r haul fel lusern
I d'wynnu uwch y byd;
Ysbeilio uffern greulon,
Dwyn arfau'r ddraig yn siwr,
A gwneyd i'm calon galed
I doddi fel y cwyr.[2]
CCLVII.
O FY enaid, paid a hepian,
Amser defiro i weithio yw,
Perygl cysgu dim yn rhagor,
Rhag in wario amser Duw;
Colli tymor ochor achub,
Sydd yn bosib yn y byd:
Mae yn bryd in wir alaru
Mod i wedi cysgu cyd.[3].
CCLVIII.
O NA bawn i yn nhrigfannau,
Hardd ororau'r nefoedd draw,