Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CCLXXXV.


PECHADUR wyf a redodd
Yn gyflym tua'r tân,
Trugaredd oedd gyflymach.
A redodd o fy mlaen;
Ymleddais à thrugaredd,
Nes iddi 'nghael i lawr,
Trugaredd a orchfygodd,—
'Rwy'n foddlon iddi'n awr.


CCLXXXVI.


O ARGLWYDD, dyro grefydd—
A honno'n grefydd bur,
I farwhau fy llygredd,
A chadarnhau fy ffydd;
A gwaith y grefydd honno,
Fydd gogoneddu Duw,
A dyma'r grefydd oreu
I farw ac i fyw.



CCLXXXVII.


AR for o wydyr teithio'r wy'—
Lle garw, enbyd yw,
Lle suddodd myrdd a mwy cyn hyn,
A mi trwy ras yn fyw.



CCLXXXVIII.


YCHYDIG ffydd, lle 'rwyt ti'n trigo?
Tyred allan, gwna dy ran,—
Gobaith eiddil, tyred dithau,
Cwyd dy gledd o blaid y gwan;
Anghrediniaeth, cilia o'r frwydyr,
Ni phery'r frwydyr ddim yn hir,
Er mai eiddil a gwan wyf finnau,
Yn nerth fy Nuw, 'rwy'n ennill tir.