Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rho lygad ffydd i edrych
Yn graff i'r ochor draw;
Ac ymhob profedigaeth,
O cadw fi'n dy law.


CCXCVII.


GAD imi gael fy ngwisgo
A'th holl arfogaeth Di,
A gwregys am fy lwynau,
A goleu gyda mi;
Yn un o'r gweision ffyddlon
Yn disgwyl bryd y daw
Y Priod-Fab o'r neithior,
A bendith yn Ei law.



CCXCVIII.


O ARGLWYDD Dduw, rho dduwiol nerth,
I'm henaid gwan.—mae'r rhiw yn serth;
Gael imi ddod i'm cartref clyd,
O gyrraedd 'stormydd blin y byd.

O, 'nawr, na byddai tan fy mron
Rhyw deimlad cryf o gariad llon,
At Iesu Grist, y Meddyg rhad,
Am roddi imi wir iachad.[1]



CCXCIX.


WEL, bellach, f'enaid gwan, distawa dan y groes,
A gwêl yn angau Calfari oleuni dan bob loes;
Cei drysor yn y nêf, gwna'th gartref gyda Duw,
Cei fwy na'r ddaear is y nen, a'r nefoedd wen i fyw.


  1. Evan Williams, Graig Lwyd, Dinorwig.