CCCXX.
Tu draw i'r llen, wrth chwilio'r llyfrau,
Pwy wyr na cheir fy enw innau,
Ar ddwyfron hardd yr Archoffeiriad
A gondemniwyd gynt gan Pilat.
CCCXXI.
TEITHIO'R ydwyf tuag adref,
Trwy anialwch maith y byd,
Suddo weithiau 'nghors anobaith,
Methu gweld y Ganan glyd;
O am ddringo i ben Nebo,
Er cael golwg ar y wlad,
Nod fy enaid yno fyddai
Euraidd furiau Ty fy Nhad.
O am glywed yn yr awel,
Swn telynau seintiau fyrdd,
A mawl-odlau pererinion
Sydd yn cario'r palmwydd gwyrdd;
Mae fy enaid yn hiraethu
Am gael uno gyda hwy,
I gyd-byncio'r beraidd anthen——
Na bydd diwedd arni mwy.[1]
CCCXXII.
YNG ngolwg dyn 'rwy'n aflan,
O'r gwadan hyd y pen,
Yng ngolwg Duw rwy'n gyfiawn,—
Pur yw fy mantell wen;
Cyfiawnder y Messia,
A haeddiant Adda'r Ail,
'Does ellyll yng ngwlad annwn
All gloddio dan ei sail.[2]
- ↑ John Davies, Bryn Dauionyn, Eglwys Bach.
- ↑ Unwaith yr oedd yr hen bregethwr Dafydd Morris yn lletya yn nhy capel y Waenfawr, ger Caernarfon, yr hwn a gedwid gan chwaer Dafydd Ddu Eryri, ac a elwid gan bawb Meri y Waenfawr. Yr oedd Meri yn hynod am ddysgu a chofio pregethau, adnodau, a phenhillion. Ganol nos clywodd Dafydd Morus yn ledio pennill gyda llais cryf. Neidiodd o'i gwely i wrando. Bore drannoeth adgofiodd ef am y ffaith. "Fedri di o?" meddai yntau. "Medra bob gair," meddai Meri. A dyna fo.