Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arglwydd, tywallt ar fy yspryd,
O fendithion nef i lawr;
Dwg fi i feddwl bob munudyn
Am y tragwyddolfyd mawr;
Mae yno Briod anwyl imi,
Ac y mae E'n uchel iawn,
Iesu hawddgar yw ei enw,
Mae yno'n eiriol droswy'n llawn.[1]


CCCXXVIII.


GOFYNNODD anghrediniaeth,—
Paham yr wyt mor hy'?
Fy ateb parod ydyw,—
Fy mrawd yw Gŵr y tŷ;
Ce's ganddo enw newydd,
Na choila'i mo'no'n wir,
Tragwyddol ddiolch iddo,—
Af ato cyn bo hir.



CCCXXIX.


AR fynydd Seion, O! na bawn,
Mi ganwn yno glod yn iawn,
Mi ganaf beth yn 'fan lle 'rwy',
Pan elwy'r nef mi ganaf fwy.

WRTH orsedd gras gweddio wnaf,
Ac os na chaf fy ngwrando,—
'Rwyf fi'n ddiau y cyntaf oll
A gyfrgollir ynddo.

RHYFEDDU, a rhyfeddu,
Rhyfeddu 'rwyf o hyd,—
Rhyfeddu, a rhyfeddu,—
A wnaf tra bwy'n y byd;


  1. Ellinor Roberts, Llain Wen Uchaf, Llanberis, luniodd yr wyth pennill uchod. Hunodd yn yr Iesu ar yr ail o Fawrth, 1879, yn 64 mlwydd oed.