Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhyfeddu pob rhyfeddod
Os gwelir f'enaid gwan,
Yn canu ar fynydd Seion.
'Nol stormydd yn y man.[1]


CCCXXX.


DYCHWEL, Arglwydd, i'th orffwysfa,
Pam y cuddi'th wyneb pryd?
Pa hyfrydwch fydd i'r rheiny
Sy'n dy garu yn y byd?
Colli'th gariad yw pob colled,
Colli'th heddwch yw pob gwae;
Fyth ni alla'i heb dy gwmni,
Ond och'neidio a llwfrhau.

O er mwyn y gwaed a gollwyd,—
Dŵr a gwaed o'i ystlys Ef,
Tynn bob cwmwl dudew, tywyll,
Ar sydd rhyngwy'n awr a'r nef;
Gad im' brofi ffrwyth ei glwyfau,
Gad im' brofi o rin ei waed,
Gad im' weled gwedd dy wyneb,—
O fy Mhrynwr, a fy Nhad.

Fel bo'm dyddiau oll yn ganu,
Nid yn alar, fel mae'n awr;
Cariad fo'n concwerio'm henaid,
Ac yn boddi swn y llawr;
Ar d'adenydd gad im' hedeg,
Trwy bob rhwystrau maith ymlaen,
Credu, caru. gorfoleddu,
Nes im' ddod i Salem lân.


  1. Adroddwyd y pedwar pennill uchod gan Mrs. Owen. Bryn y Coed, Talysarn. Hoff ddeisyfadau Diwygiad '50.