Prawfddarllenwyd y dudalen hon
XV.
Daw priodasferch Gwraig yr Oen,
Yn iach adra,
Ar ol bod yma'n fawr ei phoen,
Ar ei siwrna;
Talu wnaed ei dyled hi
Gan y Meichia',
Marw wnaeth ar Galfari
Wrth groesi bilia.[1]
XVI.
DUWIOLDEB yw'r perl pennaf
I'w feddu dan y rhôd,
A'r elw gwerthfawrocaf
O fewn ein byd yn bod;
Mae'n elw digyffelyb
I farw ac i fyw,—
Mae'n anian ddwyfol ynnom
O blaniad gras ein Duw.[2]
XVII.
DAU Dywysog sy' ar y maes
Yn rhyfela,
Duw'r byd hwn, a Duw pob gras,—
Pwy orchfyga?
Os yr Arglwydd Ior sy' Dduw,
Ewch i'w ganlyn.
Ceidw'i filwyr oll yn fyw
Rhag y gelyn.[3]