Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XVIII.


MAE'R fiynnon yn agored,
Dewch, edifeiriol rai,
Dewch chwithau yr un ffunud
Sy'n methu 'difarhau;
Dewch chwithau gafodd galon lân,
Dewch chwithau na chadd un,
I olchi'ch aml feiau
Yn haeddiant Mab y dyn.


XIX.


DEWCH, ac yfwch o'r bendithion
Sydd yn llifo fel yr afon,
O Galfaria'i maes yn gyson,—
Haleliwia llawenhewch!



XX.


DEWISODD Lot le bras,
Cadd boeni ei enaid byw,
Pen mynydd gwell fu'r blas,
Gadd Abraham gyda'i Dduw;
Mae'n well yn wir, na braster tir,
Gael rhan o'r sur sydd gyda'r saint.



XXI.


NA ddigied f' Arglwydd os gofynnaf
Beth yw'r twrf sydd yn y gwynt?
A oes tymhestl fawr i ddyfod,
Megis yn y dyddiau gynt?
Raid i'r Eglwys eto fyned
I gaethiwed Babel fawr,
I gael nithio ûs-ragrithwyr
O fysg y gwenith sy' ar y llawr?[1]


  1. Pennill o'i waith ei hun a roddodd Hywel Gruffydd, Beddgelert, ar ddechreu seiat tua 1829.