Prawfddarllenwyd y dudalen hon
XXII.
DAW dydd i chwilio Seion,—
Bob calon cyn bo hir;
Mae'n bryd i bawb ddihuno.
A cheisio crefydd bur.
Y drwg a'r da ddidolir—
Fe lwyr lanheir y llawr;
O Dduw rho fodd i sefyll
O flaen y Wyntyll fawr.
XXIII.
O'n goedwig fawr fe dorrwyd
Rhyw geinciau ceimion iawn,
'Roedd rhaid eu cael i'r demel
Cyn gwneyd y gwaith yn iawn;
Mae eto rai wedi'u marcio
Yn y goedwig fawr yn wir,—
Fe ddaw y Gwr a'u prynodd,
I'w 'mhofyn cyn bo hir.
XXIV.
FE drefnwyd draw mewn arfaeth bell
I gadw myrdd, a'u gwneyd yn well,—
A beth oedd well i'w wneyd a hwy
Na'u cuddio yn ei farwol glwy?[1]
XXV.
MAE rhai ar feirch yn dyfod
Yn hardd i Seion fryn,
Ac eraill mewn cerbydau
Yn harddach na'r rhai hyn;
- ↑ Wrth draddodi darlith ar Henry Rees yng nghapel y Garth, Porthmadog, nos Fawrth, Awst 25ain. 1885, dywedodd Dr. Owen Thomas ei fod yn cofio ymweliad cyntaf Mr. Rees a Chaergybi yn 1822 pan nad oedd ef ond deg oed. Dyma'r pennill a roddodd allan ar y pryd, ac ni chlywodd ef gan neb byth wedyn.