Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXIX.


O BECHADURIAID, deuwch,
A llawenhcwch yn un,
Mae trefn i olchi'ch beiau
Yn haeddiant. Mab y dyn,—
Pe byddent fel ysgarlad
Hwy ant fel eira man,—
Pe cochent fel y porffor,
Cewch ddod yn wyn a glan.[1]


XXX.


FFARWEL frodyr, 'rwy'n eich gadael
Yn y rhyfel ar y maes,
Ysbryd Iesu fo'n eich nerthu,
I ddal i fyny faner gras,
Neb yn cilio draw o'r fyddin,
Na 'chwaith yn dilyn o hir bell,
Ond cyflawni ein milwriaeth,
Nes dod ynghyd i'r wlad sydd well.[2]



XXXI.


I SARA bydd plant, er iddi heneiddio,
Addewid fy Nuw sy'n sicr o lwyddo;
Y tywod a'r ser roed yn gyffelybiaeth
O nifer y plant sy'n ngolwg yr Arfaeth.[3]


  1. Evan Williams, Graig Lwyd, Dinorwig, Arfon.
  2. Adroddwyd hwn gan Sion Risiart, Pen y Bryn, ar ddiwedd seiat yn y Gwynfryn, ar nos Sul, cyn iddo ef a'i deulu ymadael i'r Amerig, ac yr oedd pawb o dan deimladau dwys.
  3. Gwaith hen wraig o'r enw Cadi Lloyd ydyw hwn. Dangosodd ef i daid Wm. Lewis, Tymawr, Llanbedr. Rhoddodd yntau ef allan mewn cyfarfod gweddi, ac yr oedd Cadi Lloyd yno yn orlawn o lawenydd wrth iddynt ei ganu.