Prawfddarllenwyd y dudalen hon
XXXII.
Pwy yno fydd leader y gân,
Ai Moses, ai Abram, ai pwy?
Ai'r llanciau fu'n nghanol y tân,
Neu Daniel, neu rywun sydd fwy?
Ond prin y caiff leader y gân
Ond taro'r sill gyntaf—rhyw un,
Na bydd yr holl nefoedd yn dàn
Yn moli ei Harglwydd ei hun.[1]
XXXIII.
PLANT caethion Babilon.
Sydd yno'n brudd eu bron,
Don't adre'n llon i dir eu gwlad;
Jerusalem a fydd,
Drachefn eu dinas rydd,—
O ddedwydd ddydd, fydd eu rhyddhad.[2]
XXXIV.
GRAS, gras,—
Eginyn byw, eginyn bras;
Er cwrdd a 'stormydd ar y maes,
Fe ddeil yn las, fe wreiddia i lawr,
Mae'i fywyd yn y nef ynghudd,—
Fe ddeil yn nydd y 'storom fawr.[3]
XXXV.
YN lle damnio pentewynion,
Haeddodd fod yn uffern dân,
Gwisg a gwledd sydd i'r afradlon,—
Bellach, noethion, seiniwch gân;