Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y marw'n derbyn bywyd yma,
Wele ffynnon i'w lanhau,
Ffordd dragwyddol rad i faddeu,
Cyfoeth Meichiau i'w ryddhau.


XXXVI.


EDRYCH, Seion, gwel dy Briod,
A'th garodd yn dy isel radd,
Parod yw i roi it ollyngdod,
Maddeu'th bechod heb dy ladd;
Carodd ferch yr hen Amoriad,
Er mor aflan ac er mor ddu,
Ac o'i fawr anfeidrol gariad
Fe dosturiodd wrthi hi.

Priod yw a'i diogela
Mewn cystuddiau yn y byd;
Amser newyn fe ofala
Am ei bara yn ei bryd;
Mae'n rhoi dŵr i'w disychedu,
Mae'n ei nerthu i ddod ymlaen;
Daw ar fyrr dan lawenychu
Adre i ganu i Salem lân.



XXXVII.


FE grynnodd yr hen Belsassar
Mewn dychryn, och, a braw,
Wrth weled ar y pared
Waith yr ysgrifen law;—
A'r 'sgrifen oedd,—"Fe'th bwyswyd,
Yng nghlorian Brenin ne,
Fe'th gafwyd yn rhy ysgafn
Yn uffern bydd dy le.[1]


  1. Beggi Llwyd, Dolwyddelen.