XXXVIII.
MELUS iawn oedd gwledd Belsassar,
With weld y gwin yn goch ei liw,
Efo'i wraig a'i ordderchadon,
Mewn llestri aur o deml Duw;
"Mene Tecel" ar y pared,
Wnaeth i'w liniau grynnu 'nghyd,
Hyn all fod i rai o'm ninnau,
Pan ddelo Duw i farnu'r byd.
XXXIX.
DIM llai na chorfi a gwaed yr Oen,
Fu ar y pren yn dioddef poen,
Er mwyn ein budd fe aeth i'r bedd,—
O dowch i'r nefol lwyddol wledd.
XL.
PA fodd diengwn ddiwrnod angeu,
Os esgeuluswn fodd i fyw,
Ac yn y Farn a ddaw,
Pan ddelo dydd ein Duw?
Wele heddyw mae E'n galw
Eto'n groew yn udgorn gras—
Ar Gwr ar y March Gwyn
Gyhoedda hyn heb gas.[1]
XLI.
TANGNEFEDD Duw arhoso.
O fewn i'r gronglwyd hon,
A thriged yng nghalonnau
Y teulu oll o'r bron;
O arwain hwynt a'th Ysbryd,
A dal â'th gadarn fraich,
Nes dont i dir y bywyd,
Cant roddi i lawr eu baich.
- ↑ Hywel Gruffydd, Beddgelert, adeg Rhyfeloedd Boni yn 1803-4.