Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

L


Daw merch yr Amoriad ryw fore
O'i chystudd a'i rhwymau yn rhydd,
Yn canu tu draw i'r Iorddonen,
Ar ddelw ei Phrynwr y bydd;
Cysgodau yr hwyr a ant heibio,
Fe dderfydd y t'wyllwch i gyd;
Bydd melus yn ddiddan yng Nghanan
Am angeu lachawdwr y byd.


LI.


GWYLIWN, frodyr, byddwn sobor,
Ydyw cynghor Crist ein Duw,
Byddwn ddiwyd yn y llafur,
Dyna'r llwybyr ini fyw;
A gochelwn fynd yn 'smala
Gyda'r lân Ddalilah ffol,
Onite cawn ein harcholli,
Pan yn cysgu yn ei chol.[1]



LII.


ER cael breintiau, er cael doniau,
Er cael Beiblau, mynd i dân,
Mynd a wnawn ni er cael popeth
Os heb waith yr Ysbryd Glân;
Creu, ail eni, plannu'r anian,
Pwy all ond dy Hunan mawr?
Yn ddiatal atoni ninnau,
Fendigedig.—tyrd i lawr.[2]


  1. Azariah Shadrach, Aberystwyth.
  2. Clywyd gan Mr. John Hughes, blaenor yn y Brithdir. Llanfyllin. Bu canu mawr arno yn Niwygiad '39 a '40.