Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LIII.


MAE hen arfaethau dwyfol Ior,
Wedi 'magor
Ar ryw anherfynol stor,
Dwfwn gyngor,
Y Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân,
Draw yn forau,
A drefnodd ffordd i wneyd yn lân
Blant y tonnau.


LIV.


O PA le mae'r nerthoedd grymus,
Ddrylliodd gaerau lawer gwaith?
Ple mae Arglwydd Dduw Elias
Yn ymddangos gyda'i waith?
Braich yr Arglwydd,
Deffro yn y dyddiau hyn.[1]



LV.


IESU, tyrd i ledio'r fyddin,
I fyny tua'i gwlad ei hun.
Y mae Moses yn rhy fychan,
Er ei fod yn ffyddlon un;
Saif y gwersyll, er ei gychwyn,
Oni byddi yn ein plith,
Rho Dy gwmni yn yr anial,—
Cei glod gan dorf na rifir byth.[2]


  1. A roed allan ar ddiwedd pregeth gan Daniel Williams, Tregynon.
  2. Rhoddai yr hen bregethwr tanllyd, Moses Jones Lleyn, hwn allan yn aml ar ddechreu ei odfaeon. Byddai y sylw ar y ddau Foses yn taro'n dda bob amser, a byddai yn sicr o gael hwyl.