Prawfddarllenwyd y dudalen hon
O na chaem ni brofi hyfryd
Ddylanwadau pur y bywyd;
Cariad nef yn asio dynion
Yn un enaid, yn un galon.
Ysbryd Duw a ddelo arnom,
Gweithied a phreswylied ynnom;
Ail enynned dan brawdgarwch,—
Fel yr afon boed ein heddwch.
Iesu mawr ar ben Calfaria,
Golwg arno Ef a'n hasia;
Profi o rinweddar'i gariad
A'n gwna ninnau i garu'n wastad.[1]
LX.
DEWCH tua'r hyfryd wlad,
Dewch, dewch yn glau,
Wrth lais yr alwad rad,
Dewch heb nacau;
Nid oes o fewn ei mur
Bechod, trallod, poen, na chur,
Ond gwynfyd perffaith pur,
Byth i barhau.
LXI.
FRY, yn y ddedwydd wlad
Uwch, uwch y ser,
Mae'r seintiau mewn mwynhad
Byth gyda'u Ner;
Hwy ganant yn ddiboen,—
"Teilwng yw y Nefol Oen!"
Mewn hwyl a hyfryd hoen,
Byth, byth yn ber.
- ↑ Y Parch. James Hughes (Iago Trichrug), Llundain.