Prawfddarllenwyd y dudalen hon
O pam na chanwn ninnau,
Ein Ceidwad ydyw Ef.[1]
LXXII.
TRAGWYDDOLDEB pell ac amser,
A gyfarfu yma'n un,
Duwdod, dyndod, a chyfamod,
Ym Mherson hawddgar Mab y dyn,
Arfaeth gadarn, llwon sicir,
Dyfais cariad calon Duw,
A ddatguddir oll yn eglur,
Yn iachawdwriaeth dynol ryw.[2]
LXXIII.
Bu'n Ceidwad yn gruddfan yn groch,
Ai ddagrau yn rhedeg yn lli.
A'r ddaear o'i gwmpas yn goch
Wrth offrwm gweddiau'n ddi-ri,—
Bu'n ymbil wrth orsedd yr Ion,
A'i galon yn toddi fel cwyr,
Wrth yfed digofaint ei Dad,
Un dyn am ei deimlad nis gwyr.[3]
- ↑ Rywbryd yn y rhan gyntaf o'r ganrif o'r blaen, dychwelai mintai o hen chwiorydd, o dueddau Eifionnydd, o Sasiwn Pwllheli, dan gydganu hymnau hyd y ffordd. Mewn un lle, fe'u lluchiwyd hwy â cherrig, pryd y dywedodd un o honynt y pennill hwn.
- ↑ Cadwaladr Owen. Dolwyddelen.
- ↑ Tua 1846, cafodd John Jones Talysarn arddeliad grymus ym Meddgelert, wrth bregethu ar "Ddioddefaint Crist." Wrth ei wrando lluniodd yr hen Gristion Hywel Gruffydd y pennill hwn, ac aeth i dŷ'r capel i'w adrodd wrth "Bregethwr Mawr y Bobl." Y flwyddyn ddilynol, yn ystod ei deithiau yn y Deheudir, clywodd John Jones, Bryn'rodyn, ei gydymaith, ef yn ei adrodd yn aml gyda theimladau dwys. Cefais innau ef gan yr hen weinidog hybarch "Sion Fryn'r Odyn."