LXXVII.
Y DDAEAR gron a grynnai,
Pan drengodd Crist drwy angau,
O'i boenau a'i benyd;
A'r beddau o gur 'magorai,
A chyrff y saint a godai
O gyrrau'r gweryd.
Tair awr bu twyllwch—myrllwch mawr,
Y byd a siglodd, a'r llen a rwygodd,
A'r haul dywyllodd,—ni welodd neb mo'i wawr,
A gwaed ein Brenin Seilo yn llifo hyd y llawr,
O'i ben ni ddaeth un saeth na sen,—
Bu mor foddlonus nes marw eisus,—
Ond milwr dibris wahanai'i ystlys wen;
Ow! gwelwch faint ei g'ledi
I'n prynnu ar y pren.[1]
LXXVIII.
PA le mae'th golyn, angau du?
A'th allu, uffern drist?
Diddymwyd eich hawdurdod caeth,
Trwy rin marwolaeth Crist.
LXXIX.
GRISTION, gwrando, a rhyfedda,
Gwel ryfeddod benna'r byd,
Y gwir Dduwdod mewn gwir ddyndod,
Mewn un person yma ynghyd;
Hyn fydd testyn cân a moli,
Tragwyddoldeb maith ei hun,
- ↑ John Edwards, Glyn Ceiriog. Bu canu mawr ar y pennill hwn—ar fesur neillduol, yn amser "Diwygiad Beddgelert."