Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Gwir rosyn Saron ydyw,
Mae'n degwch penna'r nef,—
O fewn i'r nef a'r ddaear,
'Does tebyg iddo Ef.[1]
LXXXIV.
BYDD canu byth, a channmawl,
Diderfyn yn y nef,
Am enedigaeth Iesu,
A'i fywyd sanctaidd Ef;
A'r Iawn anfeidrol roddodd
Ar fynydd Calfari,
Wrth farw ar y croesbren
O'i fodd i'n prynnu ni.[2]
LXXXV.
Fy unig noddfa yw,
Yr Hollalluog Dduw,
Yr hwn a fu ar Galfari
Yn prynnu dynol ryw;
Os nerth a gaf, pa elyn saf,
O flaen fy Naf o'r nef?
Caiff Satan ffoi, ei drin a'i droi,
Dan rwymau'i roi, ei g'lymu a'i gloi
Er maint ei ddigder ef.[3]
- ↑ Daniel Jones, Gwreesam.
- ↑ Daniel Jones, Gwreesam.
- ↑ Priodola amryw hen wladwyr awduriaeth hon i'r hen gerddor Dafydd Sion James, o Benrhyndeudraeth. Nid yw hyn yn wir. Yn amser y "Diwygiad Dirwestol," trodd Dafydd Sion James y gair "Satan" yn Fedd'dod," a chaed llawer o hwyl wrth ei ganu felly. Treblid y darn olaf fel "ton gron." Ceir ef gyntaf yn "Llyfr Hymnnu," &c., a gyhoeddwyd gan John James, gweinidog y Bedyddwyr yn Aberystwyth. Argraffwyd ef yn 1811.