Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Clywch, wrthgilwyr! pam 'madawsoch?
Gwelwch, gwelwch, mae'n hwyrhau;
Rhoddwch help eich llaw dros ennyd,
Amser gorffwys sy'n neshau.
LXXXVIII.
NID ar feddwl cadw 'chydig
Daeth Iesu Grist i'n daear ni,
Nid ar feddwl cadw 'chydig
Aeth i fyny i Galfari,
Nid ar feddwl cadw 'chydig
'R aeth i lawr i waelod bedd,
Nid ar feddwl cadw 'chydig
Daeth i fyny'n hardd ei wedd.[1]
LXXXIX.
WEL dyma hwy'r gadwedig hil,
A gadwyd ar y llwybyr cul,
Trwy for o we, trwy 'storm o wynt,
Y buont hwy yn teithio gynt.
XC.
TYRED, Broffwyd mawr cenhedloedd.
Anadla'n rymus drwy dy ras,
Nid yw'r gweision ddim yn ddigon,
Heb gael y Meistr mawr i'r maes;
Y mae'r bobol yn rhy gelyd,
Er doniau euraidd dynol ryw,
- ↑ Dyma hoff bennill hen weithiwr duwiol Flaenau Ffestiniog. Lediodd ef, fel arfer, mewn un cyfarfod gweddi, a thrannoeth cyfarfyddodd a'i ddiwedd yn y chwarel, ac aeth at ei bethau. Alltud Glyn Maelor yw'r awdwr.